Dyfed Dirt Bike Club

  • Increase font size
  • Default font size
  • Decrease font size
Home Cymraeg

Cymraeg

Ffurfiwyd DDBC yn Nhachwedd 2003 gyda’r bwriad o ail gychwyn y traddodiad o redeg Enduro’s traddodiadol yn y sir a fu mor boblogaidd yn yr wythdegau ar nawdegau. Torrodd y clwb ei ddannedd yn y misoedd cynnar drwy redeg rownd un dydd or Pencampwriaeth ACU Enduro Prydeinig yng Nghoedwig Bechfa. Er y tywydd hunllefus ar y dydd, cafodd y clwb ymateb cadarnhaol iawn oddi wrth y cystadleuwyr. Mae hyn wedi helpu’r clwb i ddatblygu ac i ehangu at redeg cystadleathau eraill.
Mae’r clwb, gyda help Clwb Beiciau Modur Aberystwyth wedi rhedeg dwy rownd dau ddiwrnod llwyddiannus o’r Pencampwriaeth ACU Enduro Prydeinig yn Nghoedwig Tywi gan ddefnyddio adnoddau arbennig Pafiliwn y Bont fel eu pencadlus ar gyfer yr achlysur.

Mae’r clwb yn cynnal eu cyrfarfod misol yn Nhafarn Y Pelican, Castell Newydd Emlyn am 8th or gloch ar ddydd Gwener olaf pob mis.

Eleni yn 2010 mae’r clwb yn rhedeg dwy Enduro traddodiadol, a dwy gystadleuaeth trials.

21fed o Chwefror - Trial Aberteifi



16fed o Fai - Enduro Brechfa

Ras sydd wedi datblygu dros y blynyddoedd diwethaf i fod yn boblogaidd iawn gyda chystadleuwyr. Mae hefyd yn rownd o Pencampwriaeth ACU Sidecar Enduro Prydeinig


3ydd o Hydref - Enduro Caio.

A'r ol atgyfodiad llwyddiannus y Caio mae'r ras yma yn ol eto eleni ac yn chael ei aneli at lefel y "clubmen".

 

7fed o Dachwedd  Trial

Nid yw safle y Trial wedi ei benderfyni arno eto

Hoffai’r clwb ddiolch i bawb am eu cymorth ac yn enwedig i’r Comisiwn Coedwigaeth am eu cefnogaeth parhaol.